England & N. IrelandWalesScotland

Mae Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn dyddio’n ôl mil pedwar cant (1400) o flynyddoedd ac yn swyddogol dyma’r Eglwys Gadeiriol lleiaf ym Mhrydain, ac un o’r hynaf yng Nghymru. Llanelwy yw’r enw Cymraeg ar y lle a elwir St. Asaph yn Saesneg.

Bu William Morgan yn Esgob Llanelwy o mil chwech dim un (1601) hyd ei farwolaeth ym mil chwech dim pedwar (1604) yn bum deg saith (57) mlwydd oed, a chladdwyd ef yn y Gadeirlan. Yr Esgob William Morgan oedd cyfieithydd cyntaf y Beibl i’r Gymraeg, digwyddiad hynod arwyddocaol i’r Cymry a’r Iaith Gymraeg.

Cyfieithwyd y Testament Newydd i’r Gymraeg am y tro cyntaf gan William Salesbury yn y flwyddyn mil pum cant a chwedeg saith (1567) tra roedd Morgan yn dal yng Nghaergrawnt.  Dechreuodd Morgan ei gyfieithiad o’r Hen Destament o’r Groeg a’r Hebraeg i’r Gymraeg tua’r flwyddyn mil pump cant ac wyth deg (1580) a chyhoeddodd hwn, ynghyd â chopi diwygiedig o’r Testament Newydd yn y flwyddyn mil pump cant ac wyth deg wyth (1588). Cyfieithiad William Morgan oedd y Beibl Cymraeg safonol hyd yr ugeinfed (20fed) ganrif ac mae’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw.

St Asaph Cathedral dates back 1400 years and is officially the smallest in Britain, and one of the oldest in Wales. Llanelwy is the Welsh name for the place called St Asaph.

William Morgan was Bishop of St Asaph from 1601 until his death in 1604, aged 57, and is buried in the Cathedral. Bishop William Morgan was the first translator of the Bible into Welsh, a hugely significant event both for the Welsh people and the Welsh language.

The New Testament was first translated into Welsh by William Salesbury in 1567 while Morgan was still at Cambridge. Morgan began his translation of the Old Testament from Greek and Hebrew into Welsh around 1580 and published this, together with a revised copy of the New Testament in 1588. The William Morgan translation was the standard Welsh Bible until the 20th century and is still in use today.