Merch o Lanfihangel-y-Pennant, Gogledd Orllewin Cymru oedd Mary Jones (16 Rhagfyr 1784 – 28 Rhagfyr 1864). Gwehydd oedd ei thad, felly daeth o gartref cymharol dlawd.Roedd hi wir eisiau ei Beibl Cymraeg ei hun, felly fe arbedodd am chwe blynedd, yna aeth ar daith gerdded epig i gael un!
Pam fod Mary Jones yn Enwog?
Yn bymtheg oed, cerddodd yn droednoeth o’i thref enedigol i’r Bala i brynu ei Beibl gan Thomas Charles, gweinidog gyda’r Methodistiaid Cymraeg. Roedd y daith yn ymestyn dros chwe milltir ar hugain i gyd, a byth ers hynny mae ei stori wedi cael ei chofio gan bobl ledled y byd fel enghraifft o ymroddiad i Dduw.
Cynhyrfwyd Thomas gymaint gan ei hymroddiad, fe’i hysbrydolwyd i ffurfio sefydliad newydd yn 1804: Cymdeithas y Beibl. Fe’i sefydlwyd i gyflenwi Beiblau Cymraeg fforddiadwy i Gymru. Roedd y sylfaenwyr yn credu y dylai’r Beibl fod yn hygyrch i bawb. Mae Cymdeithas y Beibl yn dal ar waith heddiw, yng Nghymru a ledled y byd!
Mae Mary wedi dod yn eicon cenedlaethol, gyda’i stori’n cael ei dathlu a’i chofio ledled Cymru. Heddiw, gall pobl ymgymryd â Thaith Gerdded Mary Jones, lle mae pob cam o’r daith yn nodi arhosfan ar hyd taith wreiddiol Mary Jones.
Bydd pobl sy’n teithio i’w thref enedigol, Llanfihangel-y-Pennant, yn dod o hyd i Gofeb Mary Jones, sy’n coffau ei thaith a’r dylanwad a gafodd ar hanes crefyddol Cymru.
Gallwch ddod o hyd i fersiwn Saesneg o’r adnodd hwn yma.